Ezekiel 1:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar: ac wyneb ych o'r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gan bob un ohonyn nhw un wyneb dynol, wedyn wyneb llew ar yr ochr dde, wyneb tarw ar y chwith, a wyneb eryr ar y cefn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ffurf eu hwynebau fel hyn: yr oedd gan y pedwar ohonynt wyneb dynol, yna wyneb llew ar yr ochr dde, ac wyneb ych ar yr ochr chwith, ac wyneb eryr.