Ezekiel 1:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o'r tân.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn eu canol roedd rhywbeth oedd yn edrych fel marwor yn llosgi, ac roedd y tân fel ffaglau yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng y creaduriaid byw. Roedd yn llosgi'n danbaid ac roedd gwreichion yn saethu allan ohono i bob cyfeiriad,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ymhlith y creaduriaid yr oedd rhywbeth a edrychai fel marwor tn yn llosgi, neu fel ffaglau yn symud ymysg y creaduriaid; yr oedd y tn yn ddisglair, a mellt yn dod allan o'i ganol.