Ezekiel 1:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cerddent pan gerddent hwythau, a safent pan safent hwythau; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear, yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr olwynion yn symud ac yn stopio ac yn codi gyda'r creaduriaid am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan symudai'r naill, fe symudai'r llall; pan safai'r naill, fe safai'r llall; pan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd bod ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.