Ezekiel 1:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A than y ffurfafen yr oedd eu hadenydd hwynt yn union, y naill tuag at y llall: dwy i bob un yn eu cuddio o'r naill du, a dwy i bob un yn cuddio eu cyrff o'r tu arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna lle roedd y creaduriaid byw, o dan y llwyfan yma, gyda'i hadenydd yn ymestyn allan at ei gilydd. Roedd gan bob un ohonyn nhw ddwy aden yn gorchuddio ei gorff hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O dan y ffurfafen yr oedd adenydd pob un wedi eu lledu nes cyffwrdd rhai'r agosaf ato, ac yr oedd gan bob un ohonynt ddwy i guddio'i gorff.