Ezekiel 1:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog, fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch. Dyma welediad cyffelybrwydd gogoniant yr ARGLWYDD. A phan welais, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais un yn llefaru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd mor hardd a'r enfys yn y cymylau ar ôl iddi lawio. Dyma fi'n sylweddoli mai ysblander yr ARGLWYDD ei hun oedd e, felly dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr. A dyma fi'n clywed llais yn siarad â mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y disgleirdeb o'i amgylch yn debyg i enfys mewn cwmwl ar ddiwrnod glawog; yr oedd yn edrych fel ffurf ar ogoniant yr ARGLWYDD. Wedi imi weld, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais yn siarad,