Ezekiel 10:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gerddai y ceriwbiaid, y cerddai yr olwynion wrthynt; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear, yr olwynion hwythau ni throent chwaith oddi wrthynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd y ceriwbiaid yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn aros gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan symudai'r cerwbiaid, fe symudai'r olwynion wrth eu hochr; pan estynnai'r cerwbiaid eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, nid oedd yr olwynion yn ymadael hwy.