Ezekiel 10:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wisgasid â lliain, ac a ddywedodd, Dos i mewn rhwng yr olwynion, hyd dan y ceriwb, a llanw dy ddwylo o farwor tanllyd oddi rhwng y ceriwbiaid, a thaena ar y ddinas. Ac efe a aeth o flaen fy llygaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y dyn mewn gwisg o liain: “Dos rhwng yr olwynion o dan y ceriwbiaid, llenwi dy ddwylo gyda'r marwor poeth, a'u taflu nhw dros y ddinas i gyd.” A dyma fi'n ei weld yn mynd i nôl y marwor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth y dyn oedd wedi ei wisgo lliain, "Dos i mewn rhwng yr olwynion o dan y cerwbiaid, a llanw dy ddwylo 'r marwor tanllyd sydd rhwng y cerwbiaid, a'i wasgar dros y ddinas." Gwnaeth hynny yn fy ngolwg.