Ezekiel 10:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y cyfododd gogoniant yr ARGLWYDD oddi ar y ceriwb, ac a safodd oddi ar riniog y tŷ; a'r tŷ a lanwyd â'r cwmwl, a llanwyd y cyntedd o ddisgleirdeb gogoniant yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi oddi ar y cerbyd a'r ceriwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. Dyma'r cwmwl yn llenwi'r deml i gyd, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio'n llachar yn yr iard fewnol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD wedi codi oddi ar y cerwbiaid a mynd at riniog y deml. Yr oedd y cwmwl yn llenwi'r adeilad, a'r cyntedd yn llawn o ddisgleirdeb gogoniant yr ARGLWYDD.