Ezekiel 10:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychais hefyd, ac wele bedair olwyn wrth y ceriwbiaid, un olwyn wrth un ceriwb, ac un olwyn wrth geriwb arall: a gwelediad yr olwynion oedd fel lliw maen beryl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i mi edrych dyma fi'n sylwi ar y pedair olwyn wrth ymyl y ceriwbiaid. Roedd un olwyn wrth ymyl pob ceriwb, ac roedden nhw'n sgleinio fel meini saffir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth imi edrych, gwelais hefyd bedair olwyn yn ymyl y cerwbiaid, un olwyn yn ymyl pob cerwb; yr oedd ymddangosiad yr olwynion yn debyg i eurfaen disglair.