Ezekiel 11:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan broffwydais, bu farw Pelatia mab Benaia: yna syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais â llef uchel, a dywedais, O ARGLWYDD DDUW, a wnei di dranc ar weddill Israel?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i mi gyhoeddi'r neges yma, dyma Plateia fab Benaia yn syrthio'n farw. A dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu farw Pelateia fab Benaia. Syrthiais ar fy wyneb a gweiddi llais uchel a dweud, "Och! Fy Arglwydd DDUW, a wyt am wneud diwedd llwyr ar weddill Israel?"