Ezekiel 11:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywed am hynny, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Er gyrru ohonof hwynt ymhell ymysg y cenhedloedd, ac er gwasgaru ohonof hwynt trwy y gwledydd, eto byddaf yn gysegr bychan iddynt yn y gwledydd lle y deuant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dywed di fel yma: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Er fy mod i wedi eu hanfon nhw yn bell i ffwrdd, a'i chwalu nhw drwy'r gwledydd eraill, dw i fy hun wedi bod yn lle saff iddyn nhw aros dros dro yn y gwledydd hynny.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Er imi eu hanfon ymhell i blith y cenhedloedd, a'u gwasgaru trwy'r gwledydd, eto am ychydig bm yn gysegr iddynt yn y gwledydd lle maent.'