Ezekiel 11:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhoddaf iddynt un galon, ac ysbryd newydd a roddaf ynoch; tynnaf hefyd y galon garreg ymaith o'u cnawd hwynt, a rhoddaf iddynt galon gig:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n rhoi calon newydd iddyn nhw, ac ysbryd newydd hefyd. Bydda i'n cael gwared â'r galon galed, ystyfnig sydd ynddyn nhw, ac yn rhoi calon dyner iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddaf iddynt galon unplyg, ac ysbryd newydd ynddynt; tynnaf ohonynt y galon garreg, a rhoi iddynt galon gig.