Ezekiel 11:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigaethau, ac y gwnelont hwynt: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf DDUW iddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n cadw fy rheolau i, ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna byddant yn dilyn fy neddfau ac yn gofalu cadw fy marnau; byddant yn bobl i mi, a byddaf finnau yn Dduw iddynt hwy.