Ezekiel 11:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y ceriwbiaid a gyfodasant eu hadenydd, a'r olwynion yn eu hymyl, a gogoniant DUW Israel oedd arnynt oddi arnodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r ceriwbiaid yn lledu eu hadenydd i hedfan. Roedd yr olwynion wrth eu hymyl, ac ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cododd y cerwbiaid eu hadenydd, gyda'r olwynion wrth eu hochrau; ac yr oedd gogoniant Duw Israel uwch eu pennau.