Ezekiel 11:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Eich lladdedigion y rhai a osodasoch yn ei chanol hi, yw y cig; a hithau yw y crochan: chwithau a ddygaf allan o'i chanol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Y ddinas yma ydy'r crochan, a'r holl gyrff meirw sydd wedi eu taflu ar y strydoedd ydy'r cig. Chi ydy'r rhai dw i'n mynd i'w taflu allan!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y cyrff a roesoch yn ei chanol yw'r cig, a'r ddinas yw'r crochan, ond fe'ch gyrraf allan ohoni.