Ezekiel 12:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto gweddillaf ohonynt ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf, oddi wrth y newyn, ac oddi wrth yr haint; fel y mynegont eu holl ffieidd‐dra ymysg y cenhedloedd, lle y delont: a gwybyddant mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydda i'n gadael i griw bach ohonyn nhw fyw. Fydd cleddyf y gelyn, y newyn, a'r haint ddim yn lladd y rheiny. Yn y gwledydd lle byddan nhw'n mynd dw i eisiau iddyn nhw gyfaddef yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi eu gwneud. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond byddaf yn arbed ychydig ohonynt rhag y cleddyf, a rhag newyn a haint, er mwyn iddynt gydnabod eu ffieidd-dra ymysg y cenhedloedd lle'r nt; a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD."