Ezekiel 12:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gwnaf i'r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi stop ar y math yna o siarad. Fydd pobl Israel ddim yn dweud hynny eto!’ Dywed wrthyn nhw, ‘Yn fuan iawn bydd popeth dw i wedi ei ddangos yn dod yn wir!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhoddaf ddiwedd ar y ddihareb hon, ac ni ddefnyddiant hi mwyach yn Israel.' Dywed wrthynt, 'Y mae'r dyddiau'n agosu pan gyflawnir pob gweledigaeth.'