Ezekiel 12:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thithau, fab dyn, gwna i ti offer caethglud, a muda liw dydd o flaen eu llygaid hwynt; ie, muda o'th le dy hun i le arall yng ngŵydd eu llygaid hwynt: nid hwyrach y gwelant, er eu bod yn dŷ gwrthryfelgar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dyma dw i eisiau i ti ei wneud: Pacia dy fag fel taset ti'n ffoadur yn dianc o'i gartref ac yn paratoi i fynd i ffwrdd i rywle arall. Gwna hyn yng ngolau dydd, fel bod pawb yn gallu gweld beth ti'n wneud. Falle y gwnân nhw ddeall eu bod nhw'n griw anufudd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, fab dyn, gwna'n barod dy baciau ar gyfer caethglud, ac ymfuda liw dydd yn eu gu373?ydd; a phan ymfudi o'th gartref yn eu gu373?ydd i le arall, efallai y deallant eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar.