Ezekiel 13:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O achos, ie, o achos hudo ohonynt fy mhobl, gan ddywedyd, Heddwch; ac nid oedd heddwch; un a adeiladai bared, ac wele eraill yn ei briddo â chlai heb ei dymheru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ydyn, maen nhw wedi camarwain pobl. Maen nhw wedi dweud ‘Bydd popeth yn iawn!’ pan nad ydy pethau'n iawn o gwbl. Mae fel adeiladu wal sych sydd braidd yn simsan, a phobl yn meddwl y bydd peintio drosti yn ei gwneud hi'n saffach!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Am iddynt arwain fy mhobl ar gyfeiliorn a dweud, 'Heddwch', er nad oedd heddwch, y maent yn codi wal simsan ac yn ei dwbio gwyngalch.