Ezekiel 13:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y bwriaf i lawr y pared a briddasoch â phridd heb ei dymheru, ac a'i tynnaf hyd lawr, fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth, a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef; a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n chwalu'r wal wnaethoch chi ei pheintio. Fydd dim ohoni'n sefyll. A pan fydd hi'n syrthio, byddwch chithau'n cael eich dinistrio gyda hi, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Chwalaf y mur a wyngalchwyd, a'i wneud yn wastad 'r llawr a dinoethi ei sylfaen. A phan syrth o'ch cwmpas, fe'ch dinistrir; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.