Ezekiel 13:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gwae y gwniadyddesau clustogau dan holl benelinoedd fy mhobl, a'r rhai a weithiant foledau am ben pob corffolaeth, i hela eneidiau. Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi, ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddêl atoch?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwae'r merched yna sy'n gwnïo breichledau hud i'w gwisgo ar yr arddwrn, a sgarffiau hud i'w gwisgo ar y pen. Eu hunig fwriad ydy trapio pobl! Ydych chi'n meddwl y cewch chi drapio fy mhobl i ac wedyn llwyddo i ddianc eich hunain?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r gwragedd sy'n gwau breichledau hud ar bob garddwrn, ac yn gwneud gorchudd o bob maint ar y pen, er mwyn rhwydo bywydau pobl. A fyddwch yn rhwydo bywydau fy mhobl, ond yn cadw eich bywydau eich hunain yn ddiogel?