Ezekiel 13:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhwygaf hefyd eich moledau chwi, a gwaredaf fy mhobl o'ch llaw, ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa; a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n tynnu'r sgarffiau hud oddi ar eich pennau chi, ac yn achub fy mhobl o'ch gafael chi. Dw i ddim yn mynd i adael i chi ddal gafael ynddyn nhw ddim mwy. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Torraf ymaith eich gorchuddion, a gwaredaf fy mhobl o'ch dwylo, ac ni fyddant eto yn ysglyfaeth yn eich dwylo; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.