Ezekiel 13:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen tŷ Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i daro'r proffwydi hynny sydd ond yn dychmygu pethau a dweud celwydd. Fyddan nhw ddim yn cael bod ar y cyngor sy'n arwain fy mhobl, na hyd yn oed yn cael eu cyfri'n rhan o bobl Israel, nac yn cael mynd i mewn i wlad Israel eto.’ Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sy'n cael gweledigaethau twyllodrus ac yn llefaru dewiniaeth gelwyddog; ni fyddant yn perthyn i gyngor fy mhobl nac wedi eu rhestru ar gofrestr tu375? Israel, ac ni fyddant yn dod i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.