Ezekiel 14:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Pa faint mwy, pan anfonwyf fy mhedair drygfarn, cleddyf, a newyn, a bwystfil niweidiol, a haint, ar Jerwsalem, i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd hi'n erchyll pan fydda i'n anfon y pedwar yma i farnu Jerwsalem — cleddyf, newyn, anifeiliaid gwylltion, ac afiechydon ofnadwy — i ladd pobl ac anifeiliaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Pa faint gwaeth y bydd pan anfonaf ar Jerwsalem fy mhedair cosb erchyll, sef cleddyf, newyn, bwystfilod gwylltion a phla, i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail.