Ezekiel 14:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto wele, bydd ynddi weddill dihangol, y rhai a ddygir allan, yn feibion a merched: wele hwynt yn dyfod allan atoch, a chewch weled eu ffyrdd hwynt a'u gweithredoedd; fel yr ymgysuroch oherwydd yr adfyd a ddygais ar Jerwsalem, sef yr hyn oll a ddygais arni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond creda neu beidio, bydd yna rai yn llwyddo i ddod allan yn fyw! Byddan nhw'n dod yma i Babilon atat ti. Pan fyddi di'n gweld sut maen nhw'n ymddwyn, byddi'n teimlo'n well am beth fydd wedi digwydd i Jerwsalem, a'r cwbl wnes i iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto, fe arbedir gweddill ynddi, sef meibion a merched a ddygir allan; dnt allan atat, a phan weli eu hymddygiad a'u gweithredoedd, fe'th gysurir am y drwg a ddygais ar Jerwsalem; yn wir, am bob drwg a ddygais arni.