Ezekiel 16:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y'th harddwyd ag aur ac arian; a'th wisg oedd liain main, a sidan, a gwaith edau a nodwydd; peilliaid, a mêl, ac olew a fwyteit: teg hefyd odiaeth oeddit, a ffynnaist yn frenhiniaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddet wedi dy harddu gydag arian ac aur, yn gwisgo dillad o liain main drud, sidan a defnydd wedi ei frodio'n hardd. Roeddet ti'n bwyta'r bwyd gorau, wedi ei baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Roeddet ti'n hynod o hardd, ac yn edrych fel brenhines!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddit wedi dy addurno ag aur ac arian, a'th wisgo lliain, sidan a brodwaith; yr oeddit yn bwyta peilliaid, ml ac olew; yr oeddit yn hynod o brydferth, a chodaist i fod yn frenhines.