Ezekiel 16:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny wele, estynnais fy llaw arnat, a phrinheais dy ran, a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion, merched y Philistiaid, y rhai sydd gywilydd ganddynt dy ffordd ysgeler.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fi'n dy daro di'n galed, ac yn cymryd tir oddi arnat ti. Dyma fi'n gadael i dy elynion, y Philistiaid, dy reibio di. Roedd y ffordd roeddet ti'n ymddwyn yn ddigon i godi embaras arnyn nhw hyd yn oed!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Estynnais innau fy llaw yn dy erbyn, a lleihau dy diriogaeth; rhoddais di i ddymuniad dy elynion, merched y Philistiaid, a gywilyddiwyd gan dy ffordd anllad.