Ezekiel 16:37 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda'r rhai yr ymddigrifaist, a'r rhai oll a geraist, gyda'r rhai oll a gaseaist; ie, casglaf hwynt i'th erbyn oddi amgylch, ac a ddinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelont dy holl noethni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gwylia di beth dw i'n mynd i'w wneud: Dw i'n mynd i gasglu dy gariadon di at ei gilydd — y rhai roeddet ti'n eu caru a'r rhai roeddet ti'n eu casáu. Dw i'n mynd i'w casglu nhw o dy gwmpas di, ac yna dy stripio di'n noeth o'u blaenau nhw, a byddan nhw'n gweld dy rannau preifat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
felly, fe gasglaf ynghyd dy holl gariadon y cefaist bleser gyda hwy, y rhai yr oeddit yn eu caru a'r rhai yr oeddit yn eu casu. Fe'u casglaf ynghyd yn dy erbyn o bob man, ac fe'th ddinoethaf o'u blaenau, ac fe welant dy holl noethni.