Ezekiel 16:47 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto ni rodiaist yn eu ffyrdd hwynt, ac nid yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt y gwnaethost: megis petai hynny ychydig bach, ymlygraist yn fwy na hwy yn dy holl ffyrdd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti wedi ymddwyn yr un fath â nhw, ac wedi copïo eu harferion ffiaidd nhw. Yn wir, mewn byr o dro rwyt ti wedi mynd lot gwaeth na nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yn unig fe gerddaist yn eu ffyrdd hwy a dilyn eu ffieidd-dra, ond ymhen ychydig amser yr oeddit yn fwy llygredig na hwy yn dy holl ffyrdd.