Ezekiel 16:51 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Samaria hefyd ni phechodd fel hanner dy bechod di; ond tydi a amlheaist dy ffieidd‐dra yn fwy na hwynt, ac a gyfiawnheaist dy chwiorydd yn dy holl ffieidd‐dra a wnaethost.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac wedyn Samaria — wnaeth hi ddim hanner y drwg rwyt ti wedi ei wneud! Yn wir, mae dy chwiorydd yn edrych yn reit ddiniwed o'i cymharu â ti!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni wnaeth Samaria chwaith hanner dy ddrygioni di. Gwnaethost fwy o ffieidd-dra na hwy, a pheri i'th chwiorydd ymddangos yn gyfiawn ar gyfrif yr holl bethau ffiaidd a wnaethost ti.