Ezekiel 16:52 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tithau yr hon a fernaist ar dy chwiorydd, dwg dy waradwydd am dy bechodau y rhai a wnaethost yn ffieiddiach na hwynt: cyfiawnach ydynt na thi: cywilyddia dithau, a dwg dy waradwydd, gan gyfiawnhau ohonot dy chwiorydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylet ti fod â chywilydd ohonot ti dy hun. Mae dy ymddygiad di wedi bod yn erchyll; rwyt ti wedi gwneud iddyn nhw edrych yn dda! Dylai'r fath beth godi cywilydd arnat ti!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Derbyn di felly warth, oherwydd sicrheaist ddedfryd ffafriol i'th chwiorydd; am fod dy ddrygioni di yn fwy ffiaidd na'r eiddo hwy, ymddangosant hwy yn fwy cyfiawn na thi. Felly, cywilyddia a derbyn dy warth, oherwydd gwnaethost i'th chwiorydd ymddangos yn gyfiawn.