Ezekiel 16:55 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ddychwelo dy chwiorydd, Sodom a'i merched, i'w hen gyflwr, a phan ddychwelo Samaria a'i merched i'w hen gyflwr, yna tithau a'th ferched a ddychwelwch i'ch hen gyflwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd dy chwiorydd, Sodom a Samaria a'u pobl, yn cael eu hadfer i'w safle blaenorol. A thithau yr un fath.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd dy chwiorydd Sodom a Samaria, a'u merched, yn dychwelyd i'w cyflwr blaenorol, a byddi dithau a'th ferched yn dychwelyd i'ch cyflwr blaenorol.