Ezekiel 16:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn fyrddiwn y'th wneuthum fel gwellt y maes, a thi a gynyddaist ac a aethost yn fawr, ac a ddaethost i harddwch godidog: dy fronnau a chwyddasant, a'th wallt a dyfodd, a thi yn llom ac yn noeth o'r blaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fi'n gwneud i ti dyfu a llwyddo, fel cnwd mewn cae. Ac yn wir, dyma ti yn tyfu ac yn aeddfedu yn wraig ifanc hardd gyda bronnau llawn a gwallt hir hyfryd. Ond roeddet ti'n dal yn gwbl noeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwneuthum iti dyfu fel planhigyn y maes; tyfaist a chynyddu a chyrraedd aeddfedrwydd. Chwyddodd dy fronnau a thyfodd dy wallt, er dy fod yn llwm a noeth.