Ezekiel 16:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan euthum heibio i ti, ac edrych arnat, wele dy amser yn amser serchowgrwydd: yna lledais fy adain drosot, a chuddiais dy noethni: tyngais hefyd i ti, ac euthum mewn cyfamod â thi, medd yr ARGLWYDD DDUW, a thi a aethost yn eiddof fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Yna dyma fi'n dod heibio eto a gweld dy fod yn ddigon hen i gael rhyw. Dyma fi'n estyn ymyl fy mantell dros dy gorff noeth di. Dyma fi'n addo bod yn ffyddlon i ti, ac yn dy briodi di. Fy ngwraig i oeddet ti.’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Deuthum heibio iti drachefn a sylwi arnat, a gweld dy fod yn barod am gariad; taenais gwr fy mantell drosot a chuddio dy noethni. Tynghedais fy hun iti, a gwneud cyfamod thi, medd yr Arglwydd DDUW, a daethost yn eiddo imi.