Ezekiel 17:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywed yr awr hon wrth y tŷ gwrthryfelgar, Oni wyddoch beth yw hyn? dywed, Wele, daeth brenin Babilon i Jerwsalem, ac efe a gymerodd ei brenin hi, a'i thywysogion, ac a'u dug hwynt gydag ef i Babilon:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dywed wrth rebeliaid anufudd Israel: ‘Does gynnoch chi ddim syniad am beth dw i'n sôn, nac oes?’ Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r ystyr. Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd brenin Jwda a'i swyddogion yn garcharorion i Babilon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dywed wrth y tylwyth gwrthryfelgar hwn, 'Oni wyddoch beth a olyga hyn?' Dywed, 'Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd ei brenin a'i thywysogion, a mynd hwy gydag ef i Fabilon.