Ezekiel 17:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y byddai y deyrnas yn isel, heb ymddyrchafu, eithr sefyll ohoni trwy gadw ei gyfamod ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd eisiau cadw'r wlad yn wan, a gwneud yn siŵr na fyddai hi'n gwrthryfela yn ei erbyn. Os oedd hi am gadw ei hunaniaeth, byddai'n rhaid iddi gadw amodau'r cytundeb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
er mwyn darostwng y deyrnas, rhag iddi godi drachefn; ac ni allai sefyll ond trwy gadw cytundeb ag ef.