Ezekiel 17:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, yng nghartref y brenin yr hwn a'i gwnaeth ef yn frenin, yr hwn y diystyrodd efe ei lw, a'r hwn y diddymodd efe ei gyfamod, gydag ef y bydd efe farw yng nghanol Babilon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, bydd e'n cael ei ladd. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydd e'n marw yn Babilon, gwlad y brenin wnaeth y cytundeb gydag e yn y lle cyntaf a gadael iddo lywodraethu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyn wired 'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, bydd farw ym Mabilon, yng ngwlad y brenin a'i rhoes ar yr orsedd ac y diystyrodd ei lw ac y torrodd ei gytundeb.