Ezekiel 17:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Fel mai byw fi, fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe, a'm cyfamod yr hwn a ddiddymodd efe, hwnnw a roddaf fi ar ei ben ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dw i'n mynd i'w gosbi e am dorri ei ymrwymiad i mi a'r cytundeb wnaeth e o'm blaen i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cyn wired 'm bod yn fyw, ar ei ben ef ei hun y dygaf fy llw a ddiystyrodd a'm cytundeb a dorrodd.