Ezekiel 17:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys taenaf fy rhwyd arno, ac efe a ddelir yn fy rhwyd, a dygaf ef i Babilon, ac yno yr ymddadleuaf ag ef am ei gamwedd a wnaeth i'm herbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto a mynd ag e'n gaeth i Babilon, a bydda i'n ei farnu yno am iddo fy mradychu i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Taenaf fy rhwyd drosto, ac fe'i delir yn fy magl; af ag ef i Fabilon a'i farnu yno am iddo fod yn anffyddlon i mi.