Ezekiel 17:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Mi a gymeraf hefyd frig y gedrwydden uchel, ac a'i gosodaf: o frig ei blagur y torraf un tyner, a mi a'i plannaf ar fynydd uchel a dyrchafedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i gymryd sbrigyn o ben uchaf y goeden gedrwydd; bydda i'n ei bigo o goron y goeden, a'i blannu ar ben mynydd uchel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cymeraf finnau hefyd frigyn o ben y gedrwydden a'i blannu; torraf flagur tyner o'r blaenion a'i blannu ar fynydd mawr ac uchel.