Ezekiel 17:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A holl brennau y maes a gânt wybod mai myfi yr ARGLWYDD a ostyngais y pren uchel, ac a ddyrchefais y pren isel; a sychais y pren ir, ac a ireiddiais y pren crin: myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais, ac a'i gwneuthum.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pob coeden yng nghefn gwlad yn cydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Fi sy'n gwneud y goeden fawr yn fach a'r goeden fach yn fawr. Fi sy'n gwneud i goeden ir grino, ac i goeden farw flaguro eto. Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd holl goed y maes yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD sy'n darostwng y goeden uchel ac yn codi'r goeden isel, yn sychu'r goeden iraidd ac yn bywiocu'r goeden grin. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac fe'i gwnaf.'"