Ezekiel 17:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a dyfodd, ac a aeth yn winwydden wasgarog, isel o dwf, a'i changau yn troi ato ef; a'i gwraidd oedd dano ef: felly yr aeth yn winwydden, ac y dug geinciau, ac y bwriodd frig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Blagurodd, a throi yn winwydden yn tyfu a lledu'n isel. Roedd ei gwreiddiau oddi tanodd a'i changhennau'n ymestyn at yr eryr. Tyfodd ei changhennau a daeth dail ar ei brigau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Blagurodd a daeth yn winwydden, 'i thyfiant yn lledu'n isel, ei changhennau'n troi ato ef, ond ei gwreiddiau'n parhau odani. Felly daeth yn winwydden, gan dyfu canghennau a bwrw allan frigau.