Ezekiel 17:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW: A lwydda hi? oni thyn efe ei gwraidd hi? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi, fel y gwywo? sych holl ddail ei brig, ac nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, i'w thynnu hi o'i gwraidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Fydd hi'n llwyddo? Na — bydd yr eryr yn ei chodi o'r gwraidd, yn tynnu ei ffrwyth oddi arni, a'i gadael i bydru. Bydd ei dail ir yn gwywo. Fydd dim angen byddin fawr gref i dynnu ei gwreiddiau o'r pridd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: A ffynna hi? Oni chodir ei gwreiddiau hi, a thynnu ei ffrwyth? Oni wywa ei thyfiant newydd hi yn llwyr, nes y gellir tynnu ymaith ei gwreiddiau heb fraich gref na llawer o bobl?