Ezekiel 18:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr anghenus a'r tlawd a orthryma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eilunod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd‐dra,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n cam-drin pobl dlawd sydd mewn angen ac yn dwyn. Dydy e ddim yn talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes. Mae'n addoli eilun-dduwiau, ac yn gwneud pethau cwbl ffiaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y mae'n gorthrymu'r tlawd a'r anghenus ac yn lladrata; nid yw'n dychwelyd gwystl y dyledwr; y mae'n edrych ar eilunod ac yn gwneud ffieidd-dra;