Ezekiel 18:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni orthryma neb chwaith, ni atal wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i'r newynog, a'r noeth a ddillada,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy e'n cam-drin neb. Mae'n talu'n ôl beth bynnag gafodd ei roi iddo'n ernes. Dydy e ddim yn dwyn oddi ar bobl eraill, ond yn rhannu ei fwyd gyda'r newynog, a rhoi dillad i'r noeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw'n gorthrymu neb, nac yn gofyn gwystl gan ddyledwr, nac yn lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.