Ezekiel 18:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog, usuriaeth na llog ni chymer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia: hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad; gan fyw y bydd efe byw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn. Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog uchel ar fenthyciad. Mae'n cadw fy rheolau i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud. “Fydd y dyn yma ddim yn cael ei gosbi am beth wnaeth ei dad! Bydd e'n cael byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac nid yw'n cymryd llog nac elw; y mae'n cadw fy marnau ac yn dilyn fy neddfau. Ni fydd ef farw am drosedd ei dad, ond bydd yn sicr o fyw.