Ezekiel 18:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto chwi a ddywedwch, Paham? oni ddwg y mab anwiredd y tad? Pan wnelo y mab farn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau, a'u gwneuthur hwynt, gan fyw efe a fydd byw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Beth?’ meddech chi, ‘Ydy'r mab ddim yn dioddef o gwbl am yr holl ddrwg wnaeth ei dad?’ Na, pan mae'r mab yn gwneud beth sy'n iawn ac yn deg, yn cadw fy rheolau a gwneud beth dw i'n ddweud, bydd e'n cael byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Eto fe ofynnwch, 'Pam nad yw'r mab yn euog am drosedd y tad?' Am i'r mab wneud barn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau ac ufuddhau iddynt, bydd yn sicr o fyw.