Ezekiel 18:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun, medd yr ARGLWYDD DDUW. Dychwelwch, a throwch oddi wrth eich holl gamweddau; fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail sut ydych chi wedi byw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Trowch gefn ar eich gwrthryfel, a fydd eich pechod ddim yn eich dinistrio chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Felly, du375? Israel, fe'ch barnaf bob un am ei ffordd ei hun," medd yr Arglwydd DDUW. "Edifarhewch, a throwch oddi wrth eich holl wrthryfel, fel na fydd drygioni yn dramgwydd i chwi.