Ezekiel 18:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni roddes ar usuriaeth, ac ni chymerodd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd, gwir farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy e ddim yn cymryd mantais o bobl drwy godi llog ar fenthyciad. Mae'n osgoi gwneud unrhyw beth sy'n anghyfiawn, ac mae bob amser yn onest ac yn deg wrth drin pobl eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw'n rhoi ei arian ar log nac yn derbyn elw; y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac yn gwneud barn gywir rhwng dynion a'i gilydd.