Ezekiel 19:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd iddi wiail cryfion yn deyrnwiail llywodraethwyr, a'i huchder oedd uchel ymysg y tewfrig; fel y gwelid hi yn ei huchder yn amlder ei changhennau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tyfodd ei changhennau'n ddigon cryf i wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw. Tyfodd yn uchel at y cymylau; roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ei changhennau yn gryfion, yn addas i deyrnwialen llywodraethwyr. Tyfodd yn uchel iawn, uwchlaw'r prysgwydd; yr oedd yn amlwg oherwydd ei huchder a nifer ei changau.